NDM6779 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Da byw yr ucheldir
NDM6779 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Da byw yr ucheldir
NDM6779 Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylid dychwelyd defaid, y cyfeiriwyd atynt
yn y gorffennol fel cynrhon gwlanog, i fryniau Cymru.
2. Yn gresynu at y ffaith bod y penderfyniad i ddileu
hawliau pori ar ucheldiroedd Cymru wedi arwain at ddifrod enfawr i ucheldiroedd
Cymru, bywyd gwyllt a'r amgylchedd yn gyffredinol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar unrhyw
gymhellion sy'n annog symud da byw o ardaloedd yr ucheldir ac, yn lle hynny,
darparu cymhellion i ailboblogi'r ardaloedd hynny â da byw.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd da byw yng Nghymru yn y broses
o gefnogi'r diwydiant bwyd-amaeth ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
2. Yn credu bod diwydiant da byw Cymru yn sector
integredig a bod da byw yr ucheldir a'r iseldir yn ddibynnol ar ei gilydd.
3. Yn nodi pwysigrwydd ffermio ar yr ucheldir i gymunedau
gwledig, ac yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i hybu mwy o
gapasiti prosesu yng Nghymru er mwyn ychwanegu gwerth at y sector da byw.
4. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU i sicrhau newid o ran sut y mae incwm yr ardoll hyrwyddo yn cael ei
ddosbarthu a, drwy hynny, sicrhau gwell elw, yn enwedig ar gyfer diwydiant
defaid Cymru a Hybu Cig Cymru, y sefydliad sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo
a marchnata cig coch Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod ffermydd defaid yr ucheldir yn rhan
bwysig o economi Cymru.
2. Yn nodi â phryder y peryglon y mae gadael y farchnad
sengl a'r undeb tollau yn eu hachosi i ffermydd defaid yr ucheldir.
3. Yn cefnogi aros yn yr UE fel ffordd o gadw statws y
farchnad sengl ond, os byddwn yn gadael yr UE ac yn colli aelodaeth o'r
farchnad sengl, yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth digonol i ffermydd
defaid yr ucheldir gan adeiladu ar safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol
uchel.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod canlyniad refferendwm Brexit a’r heriau
masnach a fydd yn deillio ohono i ffermio ucheldir Cymru yn golygu bod angen i
ni edrych tua’r dyfodol, ac nid i’r gorffennol, gan ddatblygu model cymorth
newydd ar gyfer rheolwyr tir.
2. Yn nodi canlyniadau gwahanol ymarferion cynllunio
senarios ar gyfer amaeth ar ôl Brexit yng Nghymru. Mae’r cyfan yn rhagweld
dyfodol anodd ar gyfer ffermio defaid yn yr ucheldir os bydd y DU yn ymadael
â’r farchnad sengl a’r undeb tollau.
3. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i greu rhaglen, a
fydd yn cynnwys ffermwyr yr ucheldir, a fydd yn mynd i’r afael â’r materion a
nodir uchod drwy gyflwyno dau gynllun mawr a hyblyg: sef Cynllun Cadernid
Economaidd a chynllun Nwyddau Cyhoeddus.
Ymghynghori
– Cymorth i Ffermwyr Cymru ar ôl Brexit
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2021
Angen Penderfyniad: 19 Medi 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd