NDM6776 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Safonau Ysgolion

NDM6776 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Safonau Ysgolion

NDM6776 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod cyrhaeddiad graddau TGAU rhwng A * a C yng Nghymru yn haf 2018 ar y lefel waethaf ers 2005.

2. Yn mynegi pryder am safonau ysgol, o ystyried nifer yr ysgolion yng Nghymru a roddwyd mewn mesurau arbennig gan Estyn a sydd wedi cael hysbysiadau rhybuddio gan awdurdodau addysg lleol Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn addysg i fynd i'r afael â'r bwlch ariannu fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1.  Croesawu:

a.  bod cyfran y disgyblion sy’n cael y graddau uchaf, sef A*-A yn TGAU a Safon Uwch wedi cynyddu;

b.  bod cynnydd o 50% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth, gyda mwy o gofrestriadau yn cael A*-C;

c.  bod cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael A*-C yn TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd gan gydnabod y canlyniadau gorau a gafwyd gan blant 16 oed yng nghyfresi Tachwedd a’r haf;

d.  bod 76.3 y cant o ddisgyblion a oedd yn gwneud Safon Uwch wedi cael A*-C, y gyfradd uchaf ers 2009.  

2. Nodi:

a.  rhybudd Cymwysterau Cymru, o ystyried maint a chymhlethdod newidiadau diweddar, y dylid bod yn ofalus wrth lunio unrhyw gasgliadau drwy gymharu canlyniadau TGAU Haf 2018 a chanlyniadau blynyddoedd blaenorol, ond bod perfformiad cyffredinol yn sefydlog ar y cyfan;

b.  bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi cynnydd mewn sawl maes polisi, a nodi bod ymagwedd Cymru wedi newid o fod yn un dameidiog a byrdymor i fod yn un sy’n cael ei llywio gan weledigaeth hirdymor; a

c.  casgliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef bod gwariant ysgolion fesul disgybl wedi cwympo mwy yn Lloegr nac yng Nghymru dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod hyn, i bob pwrpas, wedi cael gwared ar y bwlch gwariant fesul disgybl rhwng y ddwy wlad.

Adroddiad Cymwysterau Cymru – Trosolwg o ganlyniadau TGAU yng Nghymru – Haf 2018 (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd – 'The Welsh Education Reform Journey' (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid  – ‘Comparing Schools Spending per Pupil in Wales and England’ (Saesneg yn unig)

 

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod yr holl weithlu addysg yn derbyn hyfforddiant digonol ac o safon uchel.

 

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod tal ac amodau’r holl weithlu addysg yn denu gweithlu gyda lefel uchel o sgiliau.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/07/2024

Angen Penderfyniad: 19 Medi 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd