NDM6776 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Safonau Ysgolion
NDM6776 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Safonau Ysgolion
NDM6776
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y
ffaith bod cyrhaeddiad graddau TGAU rhwng A * a C yng Nghymru yn haf 2018 ar y
lefel waethaf ers 2005.
2. Yn mynegi pryder am
safonau ysgol, o ystyried nifer yr ysgolion yng Nghymru a roddwyd mewn mesurau
arbennig gan Estyn a sydd wedi cael hysbysiadau rhybuddio gan awdurdodau addysg
lleol Cymru.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn addysg i fynd i'r afael â'r bwlch ariannu
fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn:
1. Croesawu:
a. bod cyfran y disgyblion sy’n cael y graddau
uchaf, sef A*-A yn TGAU a Safon Uwch wedi cynyddu;
b. bod cynnydd o 50% yn nifer y cofrestriadau ar
gyfer TGAU Gwyddoniaeth, gyda mwy o gofrestriadau yn cael A*-C;
c. bod cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael
A*-C yn TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd gan gydnabod y canlyniadau gorau a
gafwyd gan blant 16 oed yng nghyfresi Tachwedd a’r haf;
d. bod 76.3 y cant o ddisgyblion a oedd yn
gwneud Safon Uwch wedi cael A*-C, y gyfradd uchaf ers 2009.
2. Nodi:
a. rhybudd Cymwysterau Cymru, o ystyried maint a
chymhlethdod newidiadau diweddar, y dylid bod yn ofalus wrth lunio unrhyw
gasgliadau drwy gymharu canlyniadau TGAU Haf 2018 a chanlyniadau blynyddoedd
blaenorol, ond bod perfformiad cyffredinol yn sefydlog ar y cyfan;
b. bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a
Datblygiad Economaidd wedi nodi cynnydd mewn sawl maes polisi, a nodi bod
ymagwedd Cymru wedi newid o fod yn un dameidiog a byrdymor i fod yn un sy’n
cael ei llywio gan weledigaeth hirdymor; a
c. casgliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef
bod gwariant ysgolion fesul disgybl wedi cwympo mwy yn Lloegr nac yng Nghymru
dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod hyn, i bob pwrpas, wedi cael gwared ar y
bwlch gwariant fesul disgybl rhwng y ddwy wlad.
Adroddiad Cymwysterau Cymru – Trosolwg o ganlyniadau TGAU
yng Nghymru – Haf 2018 (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a
Datblygiad Economaidd – 'The Welsh Education Reform Journey'
(Saesneg yn unig)
Adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid – ‘Comparing Schools Spending per Pupil in
Wales and England’ (Saesneg yn unig)
Gwelliant
2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
at ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod yr holl weithlu addysg yn
derbyn hyfforddiant digonol ac o safon uchel.
Gwelliant
3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
at ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod tal ac amodau’r holl weithlu
addysg yn denu gweithlu gyda lefel uchel o sgiliau.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/07/2024
Angen Penderfyniad: 19 Medi 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd