Craffu ar waith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Craffu ar waith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Bydd y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn craffu yn rheolaidd ar waith
Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r asiantaeth iechyd cyhoeddus
cenedlaethol yng Nghymru ac mae'n bodoli i warchod a gwella iechyd a lles a
lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
Bydd y Pwyllgor yn craffu ar wariant a materion polisi
Iechyd Cyhoeddus Cymru, a bydd yn ymdrin â'r effaith mae'n ei chael ar wella
iechyd a lles y boblogaeth trwy ganolbwyntio ar fesurau iechyd ataliol a newid
ymddygiad, a thrwy fynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd a
lles.
Am ragor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru, ewch i'w
wefan: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/90088
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/07/2018
Dogfennau