Craffu ar waith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Craffu ar waith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Bydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn craffu yn rheolaidd ar waith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r asiantaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol yng Nghymru ac mae'n bodoli i warchod a gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.

 

Bydd y Pwyllgor yn craffu ar wariant a materion polisi Iechyd Cyhoeddus Cymru, a bydd yn ymdrin â'r effaith mae'n ei chael ar wella iechyd a lles y boblogaeth trwy ganolbwyntio ar fesurau iechyd ataliol a newid ymddygiad, a thrwy fynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd a lles.

 

Am ragor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru, ewch i'w wefan: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/90088

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/07/2018

Dogfennau