NDM6733 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6733 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6733

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

David Melding (Canol De Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) mai 21 Mehefin yw diwrnod aer glân;

 

b) effaith niweidiol llygredd aer ar ein hiechyd - mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llygredd aer yn achosi 2,000 o farwolaethau y flwyddyn, sef 6 y cant o gyfanswm y marwolaethau yng Nghymru; a

 

c) bod yn rhaid delio â NO2 a mater gronynnol er mwyn goresgyn llygredd aer.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd aer parhaus a chyflwyno parthau aer glân i newid ymddygiad a gwella iechyd dinasyddion.

 

Cefnogwyr:

Lee Waters (Llanelli)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Sian Gwenllian (Arfon)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Comisiwn;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2018

Angen Penderfyniad: 20 Meh 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd