NDM6739 Dadl Plaid Cymru - Ariannu Ysgolion

NDM6739 Dadl Plaid Cymru - Ariannu Ysgolion

NDM6739 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr argyfwng ariannu mewn ysgolion yng Nghymru.

2. Yn nodi ei effaith ar lwythi gwaith athrawon, morâl y staff ac argaeledd adnoddau ysgol sydd, yn ei dro, yn cael effaith andwyol ar addysg plant.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dwyn ynghyd randdeiliaid allweddol yn y system addysg i ystyried modelau ariannu amgen ar gyfer ysgolion;

b) sicrhau bod prosesau mor dryloyw â phosibl a lleihau biwrocratiaeth yn y broses o ariannu ysgolion; ac

c) sicrhau bod pob ysgol yn cael digon o arian i ddarparu addysg o ansawdd uchel ar gyfer pob disgybl.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol i gefnogi ysgolion a chodi safonau:

a) darparu £36 miliwn ychwanegol i leihau maint dosbarthiadau babanod;

b) cefnogi’r broses o greu rheolwyr busnes ysgolion i leihau llwyth gwaith diangen a chaniatáu i benaethiaid ganolbwyntio ar safonau ysgolion;

c) gweithio gyda’r proffesiwn i leihau biwrocratiaeth yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â hybu dysgu proffesiynol;

d) cynnig manteisio ar ddatganoli cyflogau ac amodau athrawon fel cyfle i godi statws y proffesiwn addysgu; a

e) buddsoddi mwy na  £90 miliwn yn y Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi dysgwyr mwyaf difreintiedig Cymru.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru yn darparu tua £1.20 o gyllid i Gymru am bob £1 sy'n cael ei wario ar addysg yn Lloegr. 

Gwelliant 3 -  Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddwyn ynghyd randdeiliaid allweddol yn y system addysg i ystyried:

a) y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu; a

b) y ffyrdd y gellir symleiddio'r cyllidebau a ddyrennir i awdurdodau lleol, consortia ac ysgolion er mwyn lleihau biwrocratiaeth a defnyddio'r gyllideb addysgol gyffredinol yn fwy effeithiol.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2021

Angen Penderfyniad: 13 Meh 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS