NDM6738 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofalwyr
NDM6738 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofalwyr
NDM6738 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai 11 - 17 Mehefin yw wythnos y gofalwyr
2018.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol sy'n cael ei wneud i
gymdeithas yng Nghymru gan y rolau y mae'r 370,000 amcangyfrifedig o ofalwyr
di-dâl o bob oed yn eu cyflawni.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu polisi
Ceidwadwyr Cymru ar grant dyfodol gofalwyr ifanc, a fyddai'n sicrhau bod
gofalwyr ifanc yn cael eu cynorthwyo i ymgymryd ag addysg bellach ac uwch amser
llawn a chyfleoedd hyfforddi.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ffigurau yn
nodi nifer y gofalwyr y mae eu hanghenion wedi cael eu hasesu ers cyflwyno
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a faint o'r anghenion
hynny a asewyd sydd wedi'u diwallu.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hawl i gael
seibiant ar gyfer gofalwyr a'r rheini y maent yn gofalu amdanynt.
Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion eu
hunain fel gofalwyr ac i anghenion cymwys a aseswyd gael eu diwallu gan
awdurdodau lleol.
Yn croesawu blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru
ar gyfer gofalwyr a ffurfio Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr er mwyn sicrhau
bod gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud
gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr yng Nghymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn credu os caiff y broses o weinyddu lles ei datganoli,
y gellir dileu anghysonderau o fewn y system fudd-daliadau sy’n cael gwared ar
gymorth i ofalwyr sy'n dymuno ymgymryd ag addysg a hyfforddiant.
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol
â hynny:
Yn nodi bod y farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc, gyda'r
twf mewn contractau dim oriau ac interniaethau di-dâl fel rhan o lwybrau gyrfa,
yn creu rhwystrau ar gyfer gofalwyr ifanc sydd am fynd ar drywydd cyflogaeth am
dâl a gyrfaoedd ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu.
Gwelliant 4 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod bod gofalwyr di-dâl o bob oed yn arbed dros
£8 biliwn y flwyddyn i'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac eto
mae mwyafrif llethol o ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei
werthfawrogi na'i ddeall.
Gwelliant 5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod cerrig milltir ar
gyfer y grŵp cynghori gofalwyr ifanc a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i
Aelodau'r Cynulliad am ei gynnydd yn rheolaidd.
Gwelliant 6 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cysondeb ar draws
pob rhan o Gymru yn y broses o gyflwyno'r cerdyn i ofalwyr ifanc, a ddylai
gynnwys mynediad i drafnidiaeth am bris gostyngol.
Gwelliant 7 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro faint o’r swm
arfaethedig o £3 miliwn ar gyfer gofal seibiant i ofalwyr a gaiff ei ddyrannu i
ofalwyr ifanc.
Gwelliant 8 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob fferyllfa
yn gweithredu'r canllawiau ar ganiatáu i ofalwyr ifanc gasglu meddyginiaeth
bresgripsiwn ar ran y bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Gwelliant 9 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofalwyr ifanc
yn derbyn hyfforddiant priodol mewn perthynas â gweinyddu meddyginiaeth i’r
bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2021
Angen Penderfyniad: 13 Meh 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Paul Davies AS