NDM6734 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adnewyddu Trefol
NDM6734 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adnewyddu Trefol
NDM6734 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd ardaloedd trefol yng Nghymru fel
peiriannau o dwf economaidd, dysgu a chreadigrwydd.
2. Yn credu bod gofyn am strategaeth genedlaethol
uchelgeisiol ar gyfer adfywio trefol yng Nghymru a fyddai'n helpu i wneud ein
trefi a'n dinasoedd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
3. Yn croesawu papur gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Dinasoedd
Byw', sy'n ceisio adeiladu dinasoedd ac ardaloedd trefol sy'n gynhwysol yn
gymdeithasol, yn gynaliadwy'n amgylcheddol, ac wedi’u seilio ar yr egwyddor o
sicrhau iechyd a llesiant dinasyddion.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi pwysigrwydd cefnogi cymunedau ledled Cymru,rhai
trefol a gwledig, i sicrhau eu bod yn ddeniadol i fuddsoddi, gweithio, byw,
ymweld ac astudio ynddynt.
Yn credu bod cefnogi twf cynhwysol a chreu cymunedau
cydnerth y mae’n bosib byw ynddynt yn galw am ddull ar y cyd o fynd i’r afael
ag ymyriadau allweddol, gan gynnwys datblygu economaidd, buddsoddiadau adfywio,
trafnidiaeth, datblygu seilwaith, cynllunio a sgiliau.
Yn nodi bod Cynllun Gweithredu Economaidd diweddar
Llywodraeth Cymru, Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, Cynllun Gweithredu
Tasglu’r Cymoedd ac ymgynghoriad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn sail ar
gyfer dull trawslywodraethol gwirioneddol i gefnogi twf cynhwysfawr a chreu
cymunedau cydnerth, y mae’n bosibl byw ynddynt.
Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio â phartneriaid gan
gynnwys awdurdodau lleol, rhanbarthau bargeinion dinesig a thwf, cymdeithasau
tai, Trafnidiaeth Cymru a Banc Datblygu Cymru i hyrwyddo’r broses o greu
lle.
Ffyniant
i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi
Ein
Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni
Ymgynghoriad:
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2 – Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 3, dileu 'croesawu' a rhoi 'nodi' yn
ei le.
Gwelliant 3 – Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf aer glân i
fynd i’r afael â lefelau anghyfreithlon a pheryglus o lygredd aer yn ninasoedd
Cymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2021
Angen Penderfyniad: 6 Meh 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Paul Davies AS