NDM6718 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6718 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6718
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r problemau a achosir gan ddefnyddio alcohol
mewn ffordd niweidiol a'r effaith difrodol y caiff camddefnyddio sylweddau ar
deuluoedd a chymunedau.
2. Yn credu:
a) y bydd cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer isafbris uned
o alcohol yn cael effaith ariannol andwyol ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas; a
b) na fydd y gwerth arfaethedig o thua 50 ceiniog yr uned
alcoholig yn llwyddo i wneud unrhyw newid sylweddol i faint o alcohol
y mae'r rhai sy'n yfed llawer o alcohol yn gyson yn ei yfed.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i Fil Iechyd
y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a gwneud mwy i fynd i'r afael â
chamddefnyddio alcohol heb orfod troi at isafbris fesul uned.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2018
Angen Penderfyniad: 9 Mai 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd