NDM6712 - Dadl Plaid Cymru
NDM6712 - Dadl Plaid Cymru
NDM6712
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth
y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
2. Yn nodi ymhellach fod y cytundeb yn gwneud y Bil
Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a basiwyd gan fwyafrif yng
Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn afraid.
3. Yn gresynu at y ffaith bod y cytundeb yn
rhoi feto dros feysydd deddfwriaeth ddatganoledig i Senedd y DU.
4. Yn gresynu ymhellach at y ffaith bod y cytundeb yn
tanseilio Papur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru sy'n datgan
"na ddylai ymadawiad y DU o’r UE arwain at Lywodraeth y DU yn crafangu
pwerau datganoledig yn ôl. Bydd unrhyw ymgais o’r fath yn cael ei
gwrthwynebu’n gadarn gennym".
5. Yn galw am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb yng
Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
European
Union (Withdrawal) Bill (Saesneg yn unig)
Bil
Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)
Papur
Gwyn: Diogelu Dyfodol Cymru – Pontio o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag
Ewrop
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2018
Angen Penderfyniad: 2 Mai 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd