Ymchwiliad i Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach
Inquiry5
Ystyriodd
y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddull Llywodraeth Cymru o baratoi ar gyfer Brexit mewn
perthynas â'r sector Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru. Er mwyn cyfrannu at y
gwaith craffu, galwodd y Pwyllgor am dystiolaeth mewn perthynas â'r tair thema
eang a ganlyn: canlyniadau dysgwyr a chyflogadwyedd, cynaliadwyedd ariannol a
buddsoddi, a chyllid a chydweithredu o ran ymchwil ac arloesi.
Canlyniadau dysgwyr a chyflogadwyedd
- Edrych ar yr heriau posibl i lwyddiant
dysgwyr a’u cyflogadwyedd yn y dyfodol ar ôl Brexit, a holi beth a wneir a
beth fydd yn bosibl ei wneud i oresgyn yr heriau hyn.
- Edrych ar yr effaith
bosibl ar y sector yn sgîl unrhyw golled o gynllun symudedd ERASMUS+ yr
UE, a deall y cyfleoedd ar gyfer cynlluniau symudedd eraill sy’n bod neu y
gellid eu datblygu’n synhwyrol.
Cynaliadwyedd ariannol a chyfleoedd buddsoddi
- Ystyried yr heriau posibl i
gynaliadwyedd ariannol sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch sy’n codi
yn sgîl Brexit.
- Ymchwilio i gysylltiad â chyllid yr
UE, o ran cynlluniau buddsoddi sefydliadau Addysg
Bellach ac Addysg Uwch yn y dyfodol, a beth yw’r cyfleoedd ar gyfer
ffynonellau cyllid buddsoddi eraill.
Cyllid a chydweithredu o ran ymchwil ac arloesi
- Ymchwilio i
ddibyniaeth sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch ar gyllid ymchwil ac arloesi yr UE yn y dyfodol.
- Edrych ar beth a
wneir, a beth fydd yn bosibl ei wneud, i ddiogelu cydweithrediadau a
rhwydweithiau ymchwil yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.
Casglu tystiolaeth
Nodyn
o'r digwyddiad rhanddeiliaid ar 4 Gorffennaf 2018 (PDF 114KB)
Adroddiad
Adroddiad
(PDF 899KB) ar yr ymchwiliad i Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach
Ymateb
Llywodraeth Cymru (PDF 5.1MB)
Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor at y Gweinidog Addysg yn gofyn am ragor o wybodaeth am
yr ymateb (PDF 217KB)
Llythyr
gan y Gweinidog Addysg yn nodi gwybodaeth ychwanegol (PDF 571KB)
Cynhaliwyd y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor yn y Cyfarfod
Llawn ar 20 Mawrth 2019.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/04/2018
Dogfennau
- Nodyn o'r digwyddiad rhanddeiliaid
PDF 114 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor
PDF 5 MB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at y Gweinidog Addysg - 26 Chwefror 2019
PDF 217 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Addysg - 15 Mawrth 2019
PDF 571 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach – 24 Hydref 2018
PDF 78 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach – 23 Hydref 2018 (Saesneg yn unig)
PDF 283 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Lywodraeth Cymru - Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach - 13 Mehefin 2018
PDF 204 KB
Ymgynghoriadau
- Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach (Wedi ei gyflawni)