NDM6702 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6702 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6702
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, dyddiedig
16 Mawrth, mewn perthynas â chynnig NDM6668 y cytunwyd arno gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 28 Chwefror 2018.
2. Yn gresynu at fethiant yr Ysgrifennydd Parhaol i
gydymffurfio â dymuniadau Aelodau'r Cynulliad.
3. Gan weithredu yn unol ag Adran 37(1)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006, yn ei gwneud yn ofynnol bod Ysgrifennydd Parhaol
Llywodraeth Cymru yn paratoi, at ddibenion y Cynulliad, gyda golygiadau priodol
i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr ymchwiliad ynghylch a
oedd unrhyw dystiolaeth y rhannodd Llywodraeth Cymru wybodaeth o flaen llaw heb
ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol diweddar.
ITV
Cymru – Leak inquiry clears First Minister – 25 Ionawr 2018 (Saesneg yn
unig)
Wales
Online – Outside the headlines: Politics updates from Cardiff Bay, Westminster
and our town halls – 25 Ionawr 2018 (Saesneg yn unig)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/04/2018
Angen Penderfyniad: 18 Ebr 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd