P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol
P-05-812
Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer
trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Keir
Harding, ar ôl casglu 137 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru yn gweithredu
canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau
pam nad ydynt yn gwneud hynny.
Cyhoeddwyd
dogfen o’r enw No Longer a Diagnosis of Exclusion, a oedd yn amlygu bod y rhai
a gafodd ddiagnosis o anhwylder personoliaeth yn cael eu cam-drin, yn 2003.
Cyhoeddwyd canllawiau NICE ar gyfer Anhwylder Personoliaeth Ffiniol yn 2009.
Naw mlynedd yn ddiweddarach, ac mae llai na hanner ymddiriedolaethau Cymru yn
darparu gwasanaethau sy’n cydymffurfio â’r canllawiau. Mae hyn yn cymharu ag 84
y cant yn Lloegr.
Mae pobl sydd â’r diagnosis hwn yn aml yn dod o gefndiroedd o gamdriniaeth ac
esgeulustod.
Bydd 1 o bob 10 o bobl gyda’r diagnosis hwn yn marw drwy hunanladdiad.
Darganfu’r Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Ddynladdiad a Hunanladdiad,
o’r 1 o bob 10 o bobl a derfynodd eu bywydau dros gyfnod eu hastudiaeth, nid
oedd yr un ohonynt yn derbyn gofal a argymhellir gan NICE.
Mae
arbenigwyr yn y maes yn rhybuddio y bydd ymddiriedolaethau iechyd nad oes
ganddynt wasanaethau arbenigol yn or-ddibynnol ar driniaeth breifat y tu allan
i’r ardal. Cefnogwyd y farn hon gan gynrychiolwyr o ymddiriedolaethau nad oes
ganddynt wasanaethau arbenigol yn y gynhadledd Anhwylder Personoliaeth Cymru
yng Nghaerdydd yn 2016.
Rhaid inni wneud rhagor i gefnogi’r rhai sydd wedi goroesi camdriniaeth, ac
wedi cael digon o gam eisoes.
Rhaid inni hefyd wneud rhagor i amddiffyn trethdalwyr
Cymru, drwy ddarparu gwasanaethau cymunedol effeithiol yn hytrach na lleoliadau
trin drud y tu allan i’r ardal.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ymddiriedolaethau GIG yng
Nghymru yn gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth
Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 26/01/2021 penderfynodd y
Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a
chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i
ofyn a yw wedi ymgymryd ag unrhyw waith ynghylch gweithredu canllawiau NICE yn
ystod y Senedd hon, neu a fyddai hwn yn faes y byddai'n ystyried ei argymell i
bwyllgor olynol yn y Chweched Senedd. Yn dilyn hynny, cytunodd y Pwyllgor i
gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
15/05/2018.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/04/2018