P-05-809 Is-ddeddfau Pysgota arfaethedig Newydd a methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru
P-05-809 Is-ddeddfau Pysgota arfaethedig Newydd a methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru
P-05-809
Is-ddeddfau Pysgota arfaethedig Newydd a methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sian
Godbert, ar ôl casglu
1,070 o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb
Fel mater o frys, gofynnwn i Weinidog y Cabinet ymchwilio i ymddygiad
Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y broses ymgynghori a’r
argymhelliad i wneud newidiadau i is-ddeddfau pysgota gwialen a llinell yng
Nghyfarfod y Bwrdd (Cyfoeth Naturiol Cymru) a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor
ar 18 Ionawr 2018, cyn derbyn unrhyw gynigion i newid is-ddeddfau pysgota
presennol.
1. Methodd Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru â dilyn y drefn ddemocrataidd
drwy wrthod caniatáu i aelodau Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru bleidleisio ar
gynigion newydd o ran Is-ddeddfau pysgota newydd gan bysgotwyr gwialen a
llinell. Mabwysiadodd Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru safiad didrugaredd,
ac anwybyddodd bryderon y rhanddeiliaid yn ystod y broses ymgynghori ac aelodau
Bwrdd llawn Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cyfarfod.
2. Argymhellodd Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru newidiadau i’r
Is-ddeddfau i Gynulliad Cymru ac yntau wedi ardystio yng nghyfarfod y Bwrdd na
fyddai’r cynigion yn effeithio llawer, neu ddim o gwbl, ar leihau stociau
eogiaid a brithyllod môr o fewn dalgylchoedd afonydd mewndirol ledled Cymru.
3. Gyda Swyddogion Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydnabod bod
"materion eraill" sy’n cyfrannu at leihau’r stociau eog a brithyllod
môr, methasant â blaenoriaethu a gweithredu ar y "materion eraill"
hyn, ac maent wedi gwneud hynny dros nifer o ddegawdau, heb gynllunio ar gyfer
y dyfodol. Felly, mae Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn torri gofynion Adran 6
(6) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac yn methu â chyflawni ei hamcan o
leihau’r risg i lefelau stoc eog a brithyllod môr yn afonydd Cymru, yn enwedig
o ran:
(a) Atal, monitro, gorfodi ac erlyn yn effeithiol o ran llygredd.
(b) Monitro ysglyfaethu bywyd gwyllt ac argymell rheolaethau cymesur.
Gwybodaeth ychwanegol
4. Derbyniodd Swyddogion Gweithredol
Cyfoeth Naturiol Cymru yn agored yng nghyfarfod y Bwrdd eu bod wedi methu â
chyfathrebu’n effeithiol a mabwysiadu polisi o weithredu cytundebau gyda
rhanddeiliaid, y disgwylir iddynt fonitro ac adrodd ar ran Cyfoeth Naturiol
Cymru a gorfodi’n wirfoddol y newidiadau arfaethedig i is-ddeddfau, y mae
llawer yn anghytuno â nhw.
5. Methwyd â mabwysiadu strategaeth, a
gydnabyddir fel arfer gorau mewn gwledydd eraill, i fonitro ac asesu risg pob
afon yn gywir, nac argymell dim sancsiynau fesul afon unigol, gyda
rhanddeiliaid perthnasol.
6. Mae Bwrdd a Gweithrediaeth Cyfoeth
Naturiol Cymru wedi methu â bodloni gofynion gofal a diwydrwydd dyladwy yn
ystod y broses ymgynghori, a arweiniodd at fethiant i gydnabod pa mor bwysig yw
sut y bydd eu his-ddeddfau newydd yn effeithio’n andwyol ar:
(a) Gyfleoedd pysgota hamdden, budd economaidd i gymunedau gwledig ac
arfordirol, a hefyd maent yn mynd yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol 2015.
(b) Ewyllys da rhanddeiliaid sydd wedi monitro a gwarchod yr amgylchedd
naturiol yn effeithiol heb Cyfoeth Naturiol Cymru ers dros ddegawd, a
pheryglwyd yr ewyllys da barhaus honno ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/09/2019
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad a gohebiaeth
bellach, a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail nad oes llawer o gamau pellach y
gallai'r Pwyllgor eu cymryd yn dilyn yr ymchwiliad manwl i'r Is-ddeddfau
arfaethedig a gynhaliwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio, a phenderfyniad y
Gweinidog i gadarnhau'r Is-ddeddfau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 01/05/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Aberconwy
·
Gogledd Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch
fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/04/2018