NDM6666 - Dadl Aelodau o dan Rheol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6666 - Dadl Aelodau o dan Rheol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6666
Mark Isherwood (Gogledd
Cymru)
Dai Lloyd (Gorllewin De
Cymru)
Adam Price (Dwyrain
Caerfyrddin a Dinefwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn
chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn darparu trafnidiaeth ar gyfer pobl
sy'n wynebu rhwystrau rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat, yn
cefnogi pobl i fyw'n annibynnol a chael mynediad i wasanaethau hanfodol, gan
hefyd liniaru materion yn ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd.
2. Yn nodi'r pryder am ymghynghoriad presennol Adran
Drafnidaeth y DU ar drwyddedau trafnidiaeth cymunedol (adran 19/22) ac effaith
bosibl hyn ar wasanaethau yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio mewn partneriaeth â'r sector trafnidiaeth
gymunedol a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod y sector yn gallu parhau yn ei rôl
unigryw gan ddarparu dewisiadau trafnidiaeth pwrpasol ar gyfer pobl sy'n agored
i niwed, er mwyn sicrhau mynediad i wasanaethau tra bod y broses ymgynghori yn
mynd rhagddi;
b) datblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw effaith
ar ddarpariaeth trafnidiaeth drwy wasanaethau bws mini a gyflenwir drwy
drwyddedau adran 19 a 22;
c) cyhoeddi strategaeth glir sy'n cydnabod yr agwedd
drawsbynciol ar ddarparu trafnidiaeth gymunedol ar draws adrannau Llywodraeth
Cymru wrth gyflawni nodau strategol Llywodraeth Cymru;
d) darparu sefydlogrwydd sydd ei fawr angen ar gyfer y
sector drwy symud tuag at gytundebau ariannu tair blynedd i alluogi sefydliadau
i ddatblygu a bwrw ymlaen â chynlluniau, i sicrhau mwy o gynaliadwyedd a dull
mwy strategol o ddarparu gwasanaethau; ac
e) sicrhau ymgysylltiiad â phartneriaid perthnasol a
rhanddeiliaid ledled Cymru i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad,
ac i sicrhau dealltwriaeth yn y sector o safbwynt Llywodraeth Cymru.
Ymgynghoriad Adran
Drafnidiaeth y DU ar drwyddedau trafnidiaeth cymunedol (Saesneg yn unig)
Cefnogwyr:
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/03/2018
Angen Penderfyniad: 21 Maw 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd