NDM6681 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
NDM6681
Hefin David (Caerffili)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau.
2. Diben y Bil hwn fyddai:
a) rhoi hawliau sy'n cyfateb i hawliau lesddeiliaid i rydd-ddeiliaid
sy'n talu'r ffioedd ar gyfer gwaith cynnal a chadw mewn mannau cymunedol a
chyfleusterau ar ystâd breifat neu ddefnydd cymysg a fydd yn eu galluogi i
herio rhesymoldeb taliadau gwasanaeth;
b) sicrhau, pan mae rhydd-ddeiliad yn talu tâl rhent, nad yw'r perchennog
sy'n codi rhent yn gallu cymryd meddiant neu roi prydles ar yr eiddo os nad yw
tâl rhent yn cael ei dalu am gyfnod byr o amser; ac
c) rhoi hawliau i rydd-ddeiliaid yng Nghymru sy'n cyfateb i hawliau
rhydd-ddeliaid yn Lloegr o ganlyniad i newidiadau i reoleiddio cwmnïau rheoli
ystadau a gynlluniwyd gan Lywodraeth y DU.
Cefnogwyr:
David Rees (Aberafan)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Vikki Howells (Cwm Cynon)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/04/2018
Angen Penderfyniad: 14 Maw 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Hefin David AS