NDM6665 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6665 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6665
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David
Melding (Canol De Cymru)
Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith:
a) bod polisïau cyfiawnder troseddol ar gyfer Cymru a Lloegr wedi methu ag
atal y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu carcharu;
b) nad yw amodau'r carchardai lle y mae gormod o garcharorion o Gymru yn
cael eu cadw yn ffafriol i adsefydlu, fel yr amlygwyd gan adroddiadau arolygu
diweddar ar CEM Abertawe a CEM Lerpwl;
c) bod 47 y cant o garcharorion yn aildroseddu o fewn blwyddyn;
d) nad yw'r rhan fwyaf o argymhellion adroddiad Corston o 2007 am drin
troseddwyr sy'n fenywod wedi'u gweithredu eto, gan anwybyddu'r dystiolaeth bod
carcharu menywod am droseddau cymharol ddibwys yn amharu ar fywydau eu plant
mewn ffordd sylweddol, costus ac na ellir ei chyfiawnhau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i:
a) treialu modelau amgen o gosbi troseddwyr di-drais o Gymru yng Nghymru er
mwyn osgoi amharu ar y teulu, tai a chysylltiadau cyflogaeth sy'n elfennau
hanfodol i adsefydlu llwyddiannus;
b) hyrwyddo gwaith cydgysylltiedig gwell rhwng gwasanaethau iechyd, tai a
chyfiawnder troseddol i frwydro yn erbyn y cynnydd mewn digartrefedd a salwch
meddwl ymysg pobl sy'n gadael carchar;
c) datblygu polisi cosbi Cymreig penodol ar sail y dystiolaeth o'r hyn sy'n
gweithio;
3. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol yn y pen draw, ynghyd â'r
adnoddau i adsefydlu troseddwyr mewn modd ataliol ac adferol, gan roi terfyn ar
y drws troi rhwng y carchar ac ail-droseddu.
Adroddiad y
Swyddfa Gartref - The Corston Report (Saesneg yn unig)
Women in Prison
- The Corston Report 10 Years On (Saesneg yn unig)
Cefnogwyr
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/04/2018
Angen Penderfyniad: 7 Maw 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Jenny Rathbone AS