P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg
P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Aled Dafis, ar ôl casglu 338
o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i
annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn mabwysiadu safon
BS4163:2014 yn llawn fel gofyniad yn hytrach nag argymhelliad, er mwyn
amddiffyn iechyd a diogelwch disgyblion, athrawon a thechnegwyr.
Yn dilyn cyfarfodydd rhwydweithio ar gyfer
athrawon Dylunio a Thechnoleg gan Ein Rhanbarth ar Waith, daeth yn amlwg bod y
pwysau ariannol ar ysgolion yn arwain at sefyllfa lle y mae gofyn i athrawon
Dylunio a Thechnoleg fwyfwy i addysgu dosbarthiadau mwy na’r 20 disgybl yr
argymhellir yn BS4163:2014 "Iechyd a diogelwch ar gyfer dylunio a
thechnoleg mewn sefydliadau addysgol - Cod Ymarfer". Mae dosbarthiadau mwy
o faint yn anochel yn arwain at risg uwch o ran disgyblion yn cael eu hanafu
mewn amgylcheddau gweithdy.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae Cod Ymarfer BS4163:2014 yn nodi’n glir fel a
ganlyn:
"9 Rheoli’r amgylchedd addysgu
9.1
Gwybodaeth gefndir
Dylid ystyried yn ofalus nifer y dysgwyr mewn unrhyw un ardal weithio, i
sicrhau y ceir gweithio diogel a goruchwyliaeth effeithiol.
Yng Nghymru a Lloegr, dylai dim mwy nag 20 o ddysgwyr fod gydag un athro
cymwys, sydd wedi cymhwyso, mewn unrhyw un ardal weithio.
Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, dylai dim mwy nag 20 disgybl fod ar gyfer pob
dosbarth mewn pynciau ymarferol."
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/06/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y
Gweinidog Addysg a'r deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn dilyn y
camau a gymerwyd i atgoffa penaethiaid, cyrff llywodraethu ac eraill am yr
angen i sicrhau bod asesiadau risg dosbarth Dylunio a Thechnoleg yn cael eu
diweddaru drwy'r cylchlythyr Dysg. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor yn dymuno
diolch i'r deisebydd am godi'r mater hwn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 13/03/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Ceredigion
- Canolbarth a
Gorllewin Cymru
Rhagor o
wybodaeth
Ø Dysgwch
fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
Ø Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/03/2018