P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol
P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan FNF Both Parents Matter Cymru, ar ôl casglu 138 o lofnodion
ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Gwasanaethau
cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u
hariannu yn annibynnol ar Gymorth i Fenywod Cymru a'r holl fudiadau
cysylltiedig.
Y diffiniad traws-lywodraethol
o drais a cham-drin yn y cartref yw: "Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o
achosion o ymddygiad, trais neu gamdriniaeth sy'n rheoli, yn gorfodi, yn
bygwth, rhwng pobl 16 oed neu hŷn sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid
agos neu'n aelodau o'r teulu, waeth beth fo'u rhyw neu rywioldeb."
Gall Cam-drin yn y
Cartref effeithio ar unrhyw un. Mae mwy o ddioddefwyr/goroeswyr gwrywaidd yn
chwilio am help, cyngor, cymorth a
diogelwch nag erioed o'r blaen. Mae'n bwysig bod dioddefwyr gwrywaidd yn
haeddu cymorth a chyllid annibynnol gan grwpiau penodol o ran rhywedd fel
Cymorth i Fenywod Cymru a grwpiau cysylltiedig.
Mae dioddefwyr/goroeswyr
gwrywaidd yn haeddu cymorth/help sy'n benodol i'w hanghenion, tra'n parhau i
gynnal eu hurddas, a rhoi diogelwch iddynt hwy a'u plant sy'n gyfartal ac yn
debyg i'r hyn y mae menywod yn ei dderbyn ar hyn o bryd.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae'r ystadegau Cam-drin yn y Cartref cyfredol ledled Cymru a Lloegr yn
nodi y bydd Cam-drin yn y Cartref yn effeithio ar 1 o bob 4 menyw ac 1 o bob 6
dyn yn ystod eu hoes.
Mae Cam-drin/Trais yn y
Cartref yn broblem a all effeithio ar unrhyw un, felly oni ddylem fod yn:
"Rhoi pobl a'u plant
yn gyntaf."
Nid oes mwy o fwlch o ran
argaeledd gwasanaethau a chymorth yn seiliedig ar ryw person yn unig ar draws
Cymru a'r DU.
Mae angen i agweddau
newid oherwydd ni ddylai neb (a'u plant) barhau heb ddiogelwch a chymorth mewn
modd mor gyhoeddus a chywilyddus oherwydd eu rhyw yng Nghymru, yn yr oes sydd
ohoni.
Cefnogwch hyn i helpu i gefnogi eraill.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau
sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn
y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd
i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 06/02/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pen-y-Bont ar Ogwr
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/01/2018