Pwerau newydd: Posibiliadau Newydd

Pwerau newydd: Posibiliadau Newydd

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn gwneud darn o waith yn edrych ar y pwerau newydd sydd ar gael i'r llywodraeth gan Ddeddf Llywodraeth Cymru ddiweddaraf. Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y meysydd canlynol:

 

  • Cofrestru bysiau
  • Tacsis / Cerbydau Preifat
  • Terfynau Cyflymder
  • Porthladdoedd

 

Fformat

Bydd y Pwyllgor yn cynnal cyfres o weithdai yn gwahodd arbenigwyr yn y meysydd perthnasol i drafod y pwerau newydd a pha faterion y gallai fod yn bosibl mynd i'r afael â nhw.

 

Mae'r cylch gorchwyl fel a ganlyn:

Ystyried y cyfleoedd a'r risgiau a gyflwynir gan ddatganoli pwerau trafnidiaeth newydd;

Casglu opsiynau ar gyfer diwygio deddfwriaethol posibl o'r sectorau perthnasol.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/12/2017

Dogfennau