Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach
Roedd hwn yn cael
ei ddefnyddio lle y byddai Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Cynulliad
Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y
Cynulliad fel arfer.
Roedd y Bil Masnach [Saesneg
yn unig] yn rhan o’r fframwaith a oedd yn cael ei sefydlu er mwyn galluogi’r DU
i ymrwymo i gytundebau masnach â Thrydydd Gwledydd a oedd â chytundebau o’r
fath â’r Undeb Ewropeaidd.
Cafodd y Bil ei
osod gerbron Tŷ’r Cyffredin gan Lywodraeth y DU ar 7 Tachwedd 2017 a chwblhaodd y Cyfnod
Pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin ar 1 Chwefror 2018.
Ar 7 Rhagfyr
2017, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol mewn cysylltiad â’r Bil Masnach gerbron y
Cynulliad. Cafodd gwelliannau
a awgrymir i’r Bil eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 18 Ionawr 2018.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei
adroddiad, sef Bil
Masnach: Adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion cysylltiedig
ddydd Gwener 9 Mawrth 2018.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol ei adroddiad ar Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Masnach ddydd Gwener 16
Mawrth.
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol
Gosodd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Rhif 2) ar 14 Chwefror 2019.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a’r Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol gyflwyno adroddiad ar y Bil erbyn 11 Mawrth 2019.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad atodol: Y Bil
masnach: Ail adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion cysylltiedig
ddydd Gwener 8 Mawrth 2019.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad
ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm
Rhif 2) ar y Bil Masnach ddydd Llun 11 Mawrth.
Pleidleisiodd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru o blaid rhoi cydsyniad i'r Bil Masnach ar 12 Mawrth 2019.
Yn dilyn
gwelliant i’r Bil, trafodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol atodol arall yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Mai
2019.
O ganlyniad i
hyn, pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol o blaid y Bil yn cael ei drafod
ymhellach gan Senedd y DU.
Methodd y Bil
â chwblhau ei daith drwy Senedd y DU cyn y diddymiad. Roedd hyn yn golygu na
symudodd y Bil ymlaen ymhellach.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/12/2017
Dogfennau
- Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol - 28 Mehefin 2019
- Llythyr i'r Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol - 6 Mehefin 2019
PDF 92 KB
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) Bil Masnach – 10 Mai 2019
- Llythyr i'r Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol - 7 Mai 2019
PDF 191 KB
- Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol - 25 Ebrill 2019
PDF 352 KB
- Y Bil Masnach: Ail adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion cysylltiedig - 8 Mawrth 2019
- Llythyr gan y Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i'r Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - 8 Mawrth 2019
PDF 132 KB
- Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Masnach - Chwefror 2019
- Llythyr gan Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol - 15 Chwefror 2019
PDF 239 KB
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (memorandwm rhif 2): Bil Masnach – 14 Chwefror 2019
- Lythyr gan Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth - 6 Rhagfyr 2018
PDF 57 KB
- Craffu ar reoliadau a wneir o dan y Bil Masnach - Hydref 2018
- Llythyr ar y cyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - 16 Ebrill 2018
PDF 18 KB
- Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - 16 Mawrth 2018
- Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, Y Bil Masnach: Adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion cysylltiedig - dydd Gwener 9 Mawrth 2018
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth - 26 Chwefror 2018 (Saesneg yn unig)
PDF 428 KB
- Pwyllgor Busnes -Amserlen diwygiedig - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Masnach
PDF 117 KB Gweld fel HTML (17) 15 KB
- Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach - Rhagfyr 2017
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach
- Bil Masnach [Saesneg yn unig]
PDF 154 KB