Polisi Urddas a Pharch

Polisi Urddas a Pharch

Bwrdd Taliadau

Yn sgil mabwysiadu polisi Urddas a Pharch Comisiwn y Senedd, ymrwymodd y Bwrdd Taliadau i adolygu'r holl ddogfennau a pholisïau priodol o fewn ei gylch gorchwyl i gefnogi newid diwylliannol ac i sicrhau nad yw ymddygiad amhriodol yn cael ei oddef ac yr eir i'r afael ag ef yn briodol. Mae'r dogfennau a'r polisïau a ganlyn yn dod o fewn ei gylch gorchwyl:

  • Cod Ymddygiad staff cymorth; 
  • Gweithdrefn Ddisgyblu staff cymorth;
  • Gweithdrefn Gwyno staff cymorth. 

Gwaith ymgysylltu

I lywio ei ystyriaeth o’r Weithdrefn Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwyno gofynnodd y Bwrdd am adborth ar y ddwy weithdrefn gan y grŵp sy’n cynrychioli staff cymorth.

Ymgynghoriad cyhoeddus

Ar 24 Hydref cyhoeddodd y Bwrdd ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion i ddiwygio’r Weithdrefn Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwyno ar gyfer staff cymorth.

Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law yn ei cyfarfod ar 17 Ionawr, a chytunodd i weithredu’r cynigion. Mae’r manylion llawn wedi’u nodi yn llythyr diweddaru’r Bwrdd.

Math o fusnes:

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Comisiwn;

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/10/2018