P-05-794 Gostwng yr Oedran Pleidleisio i Un ar Bymtheg
P-05-794 Gostwng yr Oedran Pleidleisio i Un ar Bymtheg
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sgiliau, ar ôl casglu 87 o
lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ostwng yr oedran pleidleisio i un ar bymtheg ar
gyfer yr etholiadau hynny lle y mae ganddo'r pwerau i wneud hynny.
Gwybodaeth ychwanegol:
Rydym yn byw mewn
cymdeithas ddemocrataidd a dylai pob aelod ohoni feddu ar y gallu i fod yn gyfrifol
am eu dewisiadau yn ein gwlad. Yn un ar bymtheg gallwch briodi, cael babi, a
thalu trethi. Yn un ar bymtheg gallwch gyfrannu at economi'r wlad, ond ni
allwch eto benderfynu sut y caiff arian cyhoeddus ei wario.
Deisebwyr yn cyflwyno’r ddeiseb i Aelodau’r
Pwyllgor
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/09/2018 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/01/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
- Islwyn
- Dwyrain De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/12/2017