NDM6560 Dadl: Adroddiad Blynyddol 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg
NDM6560 Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar
gyfer 2016-17, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud yn
ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi datblygiadau cadarnhaol yn nefnydd y Gymraeg o
dan y gyfundrefn safonau iaith, a reolir gan Gomisiynydd y Gymraeg, ar ôl dim
ond blwyddyn iddynt ddod i rym, sy'n cynnwys:
a) bod 76 y cant o siaradwyr Cymraeg o’r farn bod
gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella;
b) bod 57 y cant o bobl yn credu bod cynnydd yn y
cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg;
c) cynnydd o 50 y cant yn 2015-16 i 96 y cant yn 2016-17
yn nifer y gwasanaethau ffôn lle cynigir dewis iaith yn ddiofyn; a
d) cynnydd o 32 y cant yn 2015-16 i 45 y cant yn 2016-17
yn nifer y cynghorau sy’n cynnig pob tudalen ar eu gwefan yn Gymraeg.
Gwelliant 2 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried diddymu rôl
Comisiynydd y Gymraeg fel yr amlinellir ym Mhapur Gwyn Bil y Gymraeg.
Dogfen Ategol
Adroddiad
Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2016-17
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2021
Angen Penderfyniad: 14 Tach 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Julie James AS