NDM6559 Dadl: Mynd i'r Afael â Chamddefnyddio Sylweddau
NDM6559 Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd sy’n cael ei wneud wrth fynd i’r afael
â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, fel y’i tanlinellir yn
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg.
Adroddiad
Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod camddefnyddio sylweddau yn fater sy'n
ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn hytrach na'n fater troseddol.
Gwelliant 2 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith:
a) bod adroddiad blynyddol 2017 ar strategaeth
camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, 'Gweithio Gyda’n Gilydd i
Leihau Niwed' yn dangos y bu cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig
ag alcohol ac sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru;
b) bod nifer y bobl sy'n cwblhau triniaeth yn rhydd o
sylweddau wedi gostwng; ac
c) bod llai o bobl yn dechrau triniaeth o fewn 20
diwrnod i'r dyddiad y cânt eu cyfeirio na dwy flynedd yn ôl.
Gwelliant 3 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti
gwasanaethau dadwenwyno haen 4 i gleifion mewnol a gwasanaethau adsefydlu
preswyl, gan gydnabod nad yw hyn yn ddewis amgen i wasanaethau sy'n
canolbwyntio ar adfer o fewn y gymuned.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/06/2021
Angen Penderfyniad: 14 Tach 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Julie James AS