Pwerau ym Mil yr UE (Ymadael) i wneud is-ddeddfwriaeth
Cynhaliodd
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol* ymchwiliad byr i edrych yn fanwl ar y pwerau a ddirprwywyd
i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru ym Mil
yr UE (Ymadael) Llywodraeth y DU i wneud is-ddeddfwriaeth.
Cylch
gorchwyl
(i)
i
ystyried priodoldeb:
-
cwmpas
a natur y pwerau dirprwyedig a ddarperir yn y Bil i Weinidogion y DU a
Gweinidogion Cymru, gan gynnwys defnyddio pwerau Harri VIII;
-
y
gweithdrefnau i'w defnyddio i graffu ar ddeddfwriaeth dirprwyedig o dan y Bil.
(ii)
i
ystyried adroddiadau pwyllgorau seneddol eraill ar draws y DU ar y pwerau
dirprwyedig o fewn y Bil;
(iii)
i
ystyried unrhyw fater perthnasol arall sy'n ymwneud â gwneud is-ddeddfwriaeth o
ganlyniad i'r Bil.
Cynhaliodd
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
a Deddfwriaethol a’r Pwyllgor
Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ymchwiliad
ar y cyd i ‘Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a’i oblygiadau i Gymru’.
Daeth
yr ymatebion i law ar gyfer yr ymgynghoriad
a oedd yn cyd-fynd ag ef a defnyddiwyd y sylwadau, a
oedd eisoes wedi’u casglu gan y Pwyllgor, i lywio’r gwaith. Fodd bynnag,
byddem hefyd yn croesawu cyflwyniadau ar y materion penodol sy'n destun yr ymchwiliad
hwn gan bobl nad oeddent wedi ymateb i'r ymgynghoriad gwreiddiol neu gan y rhai
a ymatebodd, ond a hoffai wneud rhagor o bwyntiau yng ngoleuni datblygiadau ar
y Bil neu mewn ymateb i adroddiadau pwyllgorau seneddol eraill ar y pwnc hwn.
Rhestrir
yr adroddiadau seneddol sy'n berthnasol i'n hymchwiliad isod.
Delegated
Powers and Regulatory Reform Committee - European
Union (Withdrawal) Bill (Saesneg yn unig)
House
of Lords Select Committee on the Constitution - European
Union (Withdrawal) Bill: interim report (Saesneg yn unig)
House
of European Union Committee - Brexit:
devolution (Saesneg yn unig)
House
of Lords Select Committee on the Constitution - The
‘Great Repeal Bill’ and delegated powers (Saesneg yn unig)
Mae'r
adroddiad a ganlyn hefyd yn berthnasol i'n gwaith:
Hansard
Society - Taking
Back Control for Brexit and Beyond (Saesneg yn unig)
Adroddiad
y Pwyllgor
Cyhoeddodd
y Pwyllgor ei adroddiad
(PDF, 2MB) ym mis Chwefror 2018. Trafodwyd yr adroddiad ac ymateb (PDF,
200KB y Llywodraeth yn y Cyfarfod
Llawn ar 27 Mawrth 2018.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/10/2017
Dogfennau
- Adroddiad (PDF, 2MB) – 16 Chwefror 2018
- Ymateb Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip - 27 Mawrth 2018
PDF 303 KB
- Llythyr gan Brif Weinidog Cymru - 25 Ebrill 2018
- Llythyr i Brif Weinidog Cymru - 17 Ebrill 2018
- Papur gan Michael Carpenter (Saesneg yn unig)
PDF 209 KB Gweld fel HTML (5) 38 KB
- Papur gan yr Athro Thomas Watkin (Saesneg yn unig)
PDF 118 KB Gweld fel HTML (6) 30 KB
- Papur gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 168 KB Gweld fel HTML (7) 15 KB
- Llythyr oddi wrth Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip - 4 Ionawr 2018
- Llythyr i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip - 14 Rhagfyr 2017
PDF 102 KB
- * Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i'r pwerau ym Mil yr UE (Ymadael) i wneud is-ddeddfwriaeth (Wedi ei gyflawni)