NDM6526 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6526 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6526 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn credu:
a)
mai busnesau bach yw calon economaidd a chymdeithasol y stryd fawr yng Nghymru
ond bod y gyfundrefn ardrethi busnes bresennol yn dodi manwerthwyr mewn
dinasoedd a threfi bach o dan anfantais sylweddol;
b)
bod ardrethi busnes o'u hanfod yn annheg oherwydd bod ychydig, os unrhyw,
berthynas rhyngddynt â phroffidioldeb busnes a'u bod yn cael effaith iasol ar
ganol trefi drwy ychwanegu costau sylweddol i'r broses o sefydlu busnesau
newydd;
c)
y byddai leihau effaith ardrethi busnes yn helpu busnesau i oroesi'r heriau a
achosir gan siopa ar y rhyngrwyd ac yn rhoi hwb sylweddol i'r stryd fawr.
2.
Yn penderfynu:
a)
fel mesur dros dro, hyd nes y caiff ardrethi busnes eu disodli gan dreth sy'n
gysylltiedig â'r gallu i dalu, y dylai safleoedd busnes sydd â gwerth ardrethol
o lai na £15,000 gael eu heithrio ac y dylai cyfraddau eiddo busnes sydd o fewn
y band o £15,000 i £50,000 gael eu gostwng 20 y cant;
b)
y dylai awdurdodau lleol Cymru annog masnach leol drwy gynnig parcio am ddim am
o leiaf 60 munud mewn meysydd parcio canol tref;
c)
y dylai datblygiadau siopa ar gyrion y dref ddwyn cyfran fwy ond rhesymol o'r
baich ardrethi busnes ac y dylai cyfraddau o'r fath fod yn berthnasol i'w
meysydd parcio, i helpu i adfywio canol trefi.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/10/2017
Angen Penderfyniad: 11 Hyd 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd