Tai carbon isel: yr her
Tai carbon isel: yr her
Inquiry5
Cylch
gorchwyl
Cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig asesu'r hyn yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i gyflawni o safbwynt tai
carbon isel ac ystyried yr hyn oedd angen ei wneud i sicrhau bod Llywodraeth
Cymru yn llwyddo yn ei hymrwymiadau i
gyflawni targedau o ran arbed ynni a lleihau allyriadau. Bu’r Pwyllgor yn
edrych ar:
- Y cyfraniad y gall tai ei wneud wrth i Gymru bontio i economi rhad ar
garbon, gan gynnwys yr effeithiau cadarnhaol posibl ar allyriadau nwyon tŷ
gwydr;
- Datblygiad y dechnoleg sydd ei hangen ar gyfer tai sy'n defnyddio
ynni'n effeithlon iawn, ac i ba raddau y mae'r dechnoleg honno ar gael;
- Y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod y stoc dai bresennol yn
defnyddio ynni mor effeithlon ag y bo modd;
- A yw'n bosibl ac yn ymarferol darparu tai fforddiadwy ar raddfa fawr
yng Nghymru a'r rheiny'n effeithlon iawn o ran carbon ac yn cynhyrchu mwy
o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio ac, os felly, sut y gellir cyflawni
hyn;
- Y ffactorau sy'n rhwystr rhag cyflwyno newid trawsnewidiol ym maes
adeiladu tai yng Nghymru;
- Rôl Ofgem a'r grid cenedlaethol o ran galluogi'r grid i esblygu i
ddarparu ar gyfer mathau newydd o dai, a'r heriau a gyflwynir wrth i ynni
gael ei gyflenwi o ffynonellau wedi'u datganoli;
- A oes gan Gymru'r sgiliau angenrheidiol i hwyluso a galluogi newid yn
y sector tai;
- Y newidiadau y mae angen eu gwneud i Reoliadau Adeiladu yng Nghymru er
mwyn symud yn gyflymach tuag at safonau ynni lle y cynhyrchir bron ddim
carbon, a thu hwnt i hynny;
- Sut y gellir cynllunio a siapio cymunedau i ddefnyddio ynni'n fwy
effeithlon a chynhyrchu llai o garbon (gan gynnwys enghreifftiau o arfer
da yng Nghymru a thu hwnt).
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig gan
randdeiliaid ac mae'r rhain wedi'u cyhoeddi.
Adroddiad
Cyhoeddod Y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad Tai
Carbon Isel: yr Her (PDF 1MB) ar 2 Awst 2018 ac ymatebodd
Llywodraeth Cymru ar 17 Hydref 2018.
Trafodwyd yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 24
Hydref 2018.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2017
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor: Tai Carbon isel: yr her - 2 Awst 2018
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor- 17 Hydref 2018
Ymgynghoriadau
- Tai carbon isel: yr her (Wedi ei gyflawni)