P-04-338 Deiseb ynghylch ymdrech Severn Trent Water i werthu Ystâd Llyn Efyrnwy
P-04-338 Deiseb ynghylch ymdrech Severn Trent Water i werthu Ystâd Llyn Efyrnwy
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi
llofnodi isod, yn pryderu ynghylch methiant Severn Trent Water i gynnal y
safonau uchaf o gyfrifoldeb corfforaethol a ystyrir yn rhan annatod o weithredu
fel cwmni cyfyngedig cyhoeddus.
Drwy beidio ag
ymgynghori â’r gymuned leol ynghylch gwerthu Ystâd Llyn Efyrnwy a drwy beidio â
bod yn dryloyw yn hynny o beth, mae Severn Trent Water wedi methu â chyflawni
ei strategaeth gorfforaethol ei hun. Mae’r strategaeth honno yn seiliedig ar
ymgysylltu ar lefel gymunedol, cyflawni gwelliannau a sicrhau bod
sgil-effeithiau economaidd ac amgylcheddol gweithredoedd y cwmni yn gynaliadwy.
Felly, rydym yn
gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio ar unwaith i ymdrech Severn
Trent Water i werthu Ystâd Llyn Efyrnwy.
Prif ddeisebydd:
Annette Griffiths
Nifer y deisebwyr:
188
Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23
Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda –
Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2014