P-04-338 Deiseb ynghylch ymdrech Severn Trent Water i werthu Ystâd Llyn Efyrnwy

P-04-338 Deiseb ynghylch ymdrech Severn Trent Water i werthu Ystâd Llyn Efyrnwy

Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn pryderu ynghylch methiant Severn Trent Water i gynnal y safonau uchaf o gyfrifoldeb corfforaethol a ystyrir yn rhan annatod o weithredu fel cwmni cyfyngedig cyhoeddus.

 

Drwy beidio ag ymgynghori â’r gymuned leol ynghylch gwerthu Ystâd Llyn Efyrnwy a drwy beidio â bod yn dryloyw yn hynny o beth, mae Severn Trent Water wedi methu â chyflawni ei strategaeth gorfforaethol ei hun. Mae’r strategaeth honno yn seiliedig ar ymgysylltu ar lefel gymunedol, cyflawni gwelliannau a sicrhau bod sgil-effeithiau economaidd ac amgylcheddol gweithredoedd y cwmni yn gynaliadwy.

 

Felly, rydym yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio ar unwaith i ymdrech Severn Trent Water i werthu Ystâd Llyn Efyrnwy.

 

Prif ddeisebydd:

Annette Griffiths

 

Nifer y deisebwyr:

188

 

Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda – Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2014