Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru (PDF 1MB) ym mis Awst 2017.

Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £124.5 miliwn yn ei Rhaglen Cefnogi Pobl (y Rhaglen) yn 2016-17, i gefnogi pobl agored i niwed mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau i fyw mor annibynnol â phosib. Mae'r Rhaglen yn darparu cyllid grant i awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai yn uniongyrchol, neu drwy ddarparwyr trydydd parti, i amrywiaeth o bobl; o'r rheini ag anableddau dysgu neu anableddau corfforol ac anhwylderau datblygu i ddioddefwyr cam-drin domestig, pobl â salwch cronig, materion iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau, hanes troseddol a phobl â statws ffoaduriaid.

Yn ôl adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, er gwaethaf rhai gwelliannau, nid yw'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â phryderon hirsefydlog gyda'i ddyluniad a'i gyflwyno wedi bod yn effeithiol bob amser, mae'r cynnydd wedi bod yn araf mewn meysydd allweddol ac mae anghysonderau o ran rheolaeth y Rhaglen yn lleol ac yn rhanbarthol.

Fodd bynnag, canfu'r adroddiad nad yw amcanion cyfredol yn cydnabod yn benodol rôl y Rhaglen o ran atal digartrefedd a mynd i'r afael â thlodi. Mae'r adroddiad hefyd yn adlewyrchu pryderon ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cyfleu goblygiadau newid polisi ar y Rhaglen, gan gynnwys deddfwriaeth ar wasanaethau cymdeithasol, cenedlaethau'r dyfodol a thai, a pholisi Llywodraeth y DU ar ddiwygio lles. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n ddiweddar ar amcanion diwygiedig fel rhan o newidiadau ehangach i ganllawiau'r Rhaglen, ond mae wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl i ddatblygu'r trefniadau newydd hyn, yn rhannol oherwydd cyfyngiadau o ran adnoddau.

Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr Adroddiad a chynhaliodd ymchwiliad yn ystod tymor yr hydref 2017- gwanwyn 2018. Yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad ym mis Mai 2018, bu’r Pwyllgor yn monitro gweithredu Llywodraeth Cymru ar argymhellion yr adroddiad.

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.

Stuart Ropke –Tai Cymunedol Cymru

 

Enid Roberts –Cartrefi Cymunedol Gwynedd

 

Katie Dalton –Cymorth Cymru

 

Rhian Stone –Grŵp POBL a Chyfarwyddwr Cymorth Cymru

Dydd Llun 20 Tachwedd 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2.

Naomi Alleyne –Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Elke Winton – Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

 

Nigel Stannard –Cyngor Dinas Casnewydd

Dydd Llun 27 Tachwedd 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3.

Sam Lewis – Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent

 

Angela Lee – Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent

Dydd Llun 27 Tachwedd 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar Senedd TV

4.

Y Cynghorydd Mark Child - Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol y Bae Gorllewinol

 

Rachel Evans - Awdurdod Cydgysylltu Dinas a Sir Abertawe

 

Dydd Llun 11 Rhagfyr 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 4

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 4 ar Senedd TV

5.

Llywodraeth Cymru

 

Tracey Burke

Jo-Anne Daniels

John Howells

Emma Williams

Dydd Llun 22 Ionawr 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 5

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 5 ar Senedd TV

6.

Llywodraeth Cymru

Tracey Burke

Jo-Anne Daniels

John Howells

Dydd Llun 3 Rhagfyr

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 6

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 6 ar Senedd TV

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/09/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau