NDM6505 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6505 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6505 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwasanaethau sy'n addas i’r dyfodol', sy'n
ceisio ddiddymu cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru.
2.
Yn cydnabod y rôl bwysig y mae cynghorau iechyd cymuned wedi'i chwarae o ran
sicrhau atebolrwydd gwasanaethau cyhoeddus annibynnol a darparu llais cryf i
gleifion yng Nghymru.
3.
Yn credu y bydd cynigion y Papur Gwyn yn gwanhau lleisiau cleifion a chymunedau
a lleihau lefel y gwaith craffu ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
ymestyn y cyfnod ymgynghori ar y Papur Gwyn, ar ôl methu ag ymgysylltu'n
briodol â chynghorau iechyd cymuned, cleifion a'r cyhoedd yng Nghymru; a
b)
gweithio mewn ffordd fwy adeiladol gyda'r cynghorau iechyd cymuned ar gynigion
yn y dyfodol ar gyfer corff newydd i roi llais i'r bobl.
Dogfen
Ymgynghori Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - 'Gwasanaethau sy'n addas i’r dyfodol'
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/09/2017
Angen Penderfyniad: 20 Medi 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd