P-05-769 Canolfan Trawma Difrifol De Cymru – Caerdydd ac Abertawe
P-05-769 Canolfan Trawma Difrifol De Cymru – Caerdydd ac Abertawe
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mr Griffiths, ar ôl casglu
69 o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu canolfannau trawma difrifol yn
Ysbyty Treforys, Abertawe yn ogystal ag Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn
hytrach na dim ond ar un safle.
Stethosgop
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/01/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau. Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb
gan fod disgwyl i'r lleoliad arfaethedig ar gyfer canolfan trawma difrifol
newydd fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, gan annog y deisebydd i roi ei
farn fel rhan o hyn.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/09/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Llanelli
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2017