Cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau

Cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau

Inquiry5

Cefndir

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau er mwyn edrych yn fanwl ar lwyddiant sector y celfyddydau yng Nghymru wrth gynyddu ei gyllid heblaw cyllid cyhoeddus, dosbarthiad cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru a modelau arfer gorau yn rhyngwladol y gallai Cymru geisio eu hefelychu yn hyn o beth.

 

Rhwng mis Gorffennaf a mis Awst 2017 gofynnodd y Pwyllgor am ymatebion ysgrifenedig i'r cwestiynau a ganlyn:

 

·      Effeithiolrwydd ymdrechion i gynyddu cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru gan gyrff, gan gynnwys Cyngor y Celfyddydau, awdurdodau lleol ac artistiaid a sefydliadau celfyddydol eu hunain. Byddai'r cyllid hwn yn cynnwys:

 

o  incwm a enillir;

o  dyngarwch;

o  buddsoddiad.

 

·      Lefel y cyllid heblaw cyllid cyhoeddus a ddosberthir yng Nghymru, a sut mae hwn yn cymharu â gweddill y DU.

 

·      Enghreifftiau rhyngwladol o ddulliau arloesol o godi cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau.

 

Bu'r Pwyllgor hefyd yn ymgysylltu â phobl yn y sector rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2017.

 

Adroddiad  

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ar ei ganfyddiadau ym mis Mawrth 2018 (PDF; 668 KB)

 

Ymateb i'r adroddiad

 

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Mai 2018 (PDF; 253 KB).

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/07/2017

Dogfennau