NDM6348 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6348 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6348
David
Melding (Canol De Cymru)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi mai Cymru yw'r unig un o'r gwledydd cartref sydd heb ganolfan
rhewmatoleg bediatrig arbenigol;
2.
Yn nodi bod tua 400 o blant yn ne Cymru yn unig sy'n dioddef o arthritis
idiopathig ieuenctid;
3.
Yn cydnabod yr angen am ganolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth yng
Nghymru;
4.
Yn nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad
cynhwysfawr o wasanaethau pediatrig arbenigol yng Nghymru; a
5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau gan Gofal Arthritis, y
Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg
ar gyfer creu canolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth benodedig lwyr yng
Nghymru.
Cefnogir
gan:
Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/07/2017
Angen Penderfyniad: 12 Gorff 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd