NDM6349 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
NDM6349 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
NDM6349 Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi cynnig am fil i gefnogi gofalwyr ifanc yng Nghymru.
2.
Yn nodi mai diben y bil hwn fyddai:
a)
darparu canllawiau statudol i ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer
darparu cefnogaeth a hyblygrwydd priodol i ofalwyr ifanc ymgymryd â'u
cyfrifoldebau gofal yn ystod oriau ysgol ac ar ôl oriau ysgol;
b)
darparu canllawiau i ysgolion i weithio gyda gofalwyr ifanc er mwyn darparu
llwybrau hyblyg i sicrhau eu bod yn parhau mewn addysg;
c)
caniatáu i ofalwyr ifanc gasglu presgripsiynau ar ran y rhai sydd yn eu gofal,
a hynny gyda Cherdyn Gofalwr Ifanc neu ddull arall; a
d)
sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sefydliadau priodol i gyflwyno
gwasanaeth lliniarol a chefnogaeth i ofalwyr ifanc ym mhob ardal awdurdod lleol
yng Nghymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/06/2017
Angen Penderfyniad: 5 Gorff 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd