NDM6336 - Dadl Plaid Cymru
NDM6336 - Dadl Plaid Cymru
NDM6336 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn datgan ei hun fel senedd genedlaethol Cymru.
2.
Yn mynnu bod yr holl bwerau ac adnoddau a gaiff eu harfer ar hyn o bryd ar
lefel yr UE o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn cael eu harfer gan
Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
3.
Yn mynnu ymhellach fod Llywodraeth y DU yn ceisio cymeradwyaeth Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar gyfer pob cytundeb masnach yn y dyfodol â'r UE a gwledydd
eraill o amgylch y byd er mwyn diogelu buddiannau economi Cymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/06/2017
Angen Penderfyniad: 21 Meh 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd