P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg
P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan SWAT (Save Withybush Action
Team), ar ôl casglu 759 o lofnodion ar-lein a 2,773 ar bapur – cyfanswm o 3,532
lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Mae SWAT wedi ymladd i gadw gwasanaethau gofal iechyd eilaidd diogel,
effeithiol a hygyrch i bobl Sir Benfro ers 2005. Methodd deiseb flaenorol i
gadw darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal
Arbennig Babanod yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg. Heb gyfiawnhad,
cafodd y Gweinidog dros Iechyd a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wared ar ddarpariath
Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod
yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg yn 2014 a adawodd pobl Sir Benfro
gydag opsiwn iechyd trydydd dosbarth anniogel, annheg ac anhygyrch i famau,
babanod a phlant yn arbennig.
Ar ran SWAT a
phobl Sir Benfro rwy'n galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth
Cymru i sicrhau bod y ddarpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad
Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod yn dychwelyd ar unwaith i'r lefelau
cyn 2014. Nid yw SWAT a phobl Sir Benfro yn cytuno â chanoli gwasanaethau i
safle Glangwili.
Roedd yn rhaid
i'r Bwrdd Iechyd gynnal asesiadau o effaith ar gydraddoldeb ac mae'r rhain wedi
dangos yn glir bod carfan gyfan o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein
cymdeithas wedi bod ac yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd y newidiadau hyn.
Yn benodol, mae'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, yr ifanc iawn, menywod
beichiog, y rhai sydd wedi'u herio'n economaidd a'r rhai ag anableddau wedi
cael eu heffeithio'n sylweddol ac yn parhau i gael eu heffeithio gan hyn. Mae
gan y Bwrdd Iechyd hyn i gyd wedi'i ddogfennu yn ei asesiadau, ond ymddengys ei
fod yn methu neu'n anfodlon dod o hyd i atebion ar gyfer y materion hyn.
Rwy'n gofyn
ichi ddychwelyd gwasanaethau i'r gwasanaethau o'r radd flaenaf yr oeddent yn
arfer bod. Byddai hyn yn ail-ddarparu gwasanaethau teg, hygyrch, diogel a
chynaliadwy yn hytrach na'r trefniant presennol sy'n anfantais difrifol i'r
bobl sydd fwyaf agored i niwed yn Sir Benfro.
Deisebwyr
SWAT yn cyflwyno’r ddeiseb i’r pwyllgor
Statws
Yn ei gyfarfod ar 15/05/2018 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
·
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch
fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/06/2017