NDM6326 - Dadl Plaid Cymru
NDM6326 - Dadl Plaid Cymru
NDM6326 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd y llynedd.
2.
Yn cydnabod bod gan Gymru anghenion a gofynion unigryw drwy gydol y broses o
adael yr Undeb Ewropeaidd.
3.
Yn nodi'r pwysigrwydd bod Cymru yn inswleiddio'i hun oddi wrth yr ansicrwydd
economaidd o adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd
deddfwriaethol ac economaidd newydd a gaiff eu creu wedi inni adael.
4.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau:
a)
bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru feto dros unrhyw gytundeb masnach dramor;
b)
bod y pwerau cyllidol dros Dreth ar Werth a'r Doll Teithwyr Awyr yn cael eu
datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyfle cyntaf a bod rhagor o
ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyfradd dreth gorfforaethol unigryw yng Nghymru;
c)
bod pwerau caffael yn cael eu datganoli i Gymru i alluogi Llywodraeth Cymru i
sicrhau bod gan fusnesau Cymru fwy o ran yn y broses gaffael i hyrwyddo
busnesau Cymru; a
d)
nad yw Cymru yn cael yr un geiniog yn llai o arian (yn ôl yr addewid yn ystod
ymgyrch y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd) a bod pecyn buddsoddi
newydd yn cael ei ddwyn ymlaen i insiwleiddio economi Cymru drwy gydol yr
ansicrwydd economaidd a achosir gan y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynlluniau ar gyfer gwasanaeth mudo i
Gymru ac i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth yn y DU i
ganiatáu fisâu rhanbarthol fel bod gan Gymru bolisi mewnfudo sy'n gweithio ar
gyfer ei gwasanaethau cyhoeddus a'i heconomi.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/06/2017
Angen Penderfyniad: 7 Meh 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd