NDM6320 Dadl: Y Fframwaith Nyrsio Ysgolion

NDM6320 Dadl: Y Fframwaith Nyrsio Ysgolion

NDM6320 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod Y Fframwaith ar gyfer Gwasanaeth Nyrsio mewn Ysgolion i Gymru 2017 wedi'i gyhoeddi.

 

2. Yn nodi i'r fframwaith gael ei gyhoeddi gyda nyrsys ysgol rheng flaen ac iddo gymryd i ystyriaeth yn uniongyrchol, farn plant oedran ysgol.

3. Yn nodi bod nyrs ysgol wedi'i henwi ym mhob ysgol uwchradd a'r ysgol gynradd fwydo gysylltiedig ar hyn o bryd a bod y fframwaith yn cymeradwyo bod gan blant ysgol yng Nghymru fynediad estynedig drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys gwyliau ysgol ac yn cynnwys safonau cyffredinol ar gyfer darparu gwasanaethau.

4. Yn nodi bod y fframwaith yn elfen allweddol ac yn sail i Raglen Plant Iach Cymru (0-7 oed) a bod posibilrwydd y caiff ei estyn i grwpiau oedran hŷn.

'Fframwaith ar gyfer Gwasanaeth Nyrsio mewn Ysgolion i Gymru 2017'

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2017

Angen Penderfyniad: 6 Meh 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Jane Hutt AS