P-04-336 Papur Cymraeg dyddiol i Gymru
P-04-336 Papur Cymraeg dyddiol i Gymru
Geiriad y ddeiseb:
Galwn ar Lywodraeth i roi grant i Gyngor Llyfrau Cymru i’w galluogi
i gefnogi ac ariannu papur dyddiol yn
yr iaith Gymraeg.
Prif ddeisebydd:
Ben Screen
Nifer y deisebwyr:
37
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi ei ddileu
Y Broses Ymgynghori
Mae’r Pwyllgor yn croesawu
ymatebion gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn
ymateb ar ran sefydliad, cyflwynwch ddisgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Yn gyffredinol, byddwn yn gofyn
am gyflwyniadau ysgrifenedig
oherwydd mae’n arferol i’r Cynulliad
Cenedlaethol gyhoeddi’r dystiolaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor ar
ein gwefan fel bod cofnod cyhoeddus ohoni. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth
mewn fformat sain neu fideo.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu
cyfraniadau yn Gymraeg neu Saesneg,
a gofynnwn i sefydliadau sydd â chynlluniau/polisïau iaith Gymraeg i ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u
polisïau gwybodaeth i’r cyhoedd.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni at deisebau@cymru.gov.uk. Fel arall, gallwch
ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Deisebau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai’r dystiolaeth
ddod i law erbyn dydd Iau,
17 Tachwedd 2011. Efallai na fydd yn bosibl ystyried
yr ymatebion a ddaw i law ar ôl
y dyddiad hwn.
Gwelwch y llythyr
ymgynghori isod am fwy o wybodaeth.
Dogfennau
- Cyfyngedig