Effeithiau tagfeydd ar y diwydiant bysiau yng Nghymru
Effeithiau tagfeydd ar y diwydiant bysiau yng Nghymru
Bydd Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cynnal ymchwiliad byr i effaith tagfeydd ar
y diwydiant bysiau.
Cefndir
Trafodwyd effaith tagfeydd ar y diwydiant bysiau yn
helaeth yn ystod uwchgynhadledd
bysiau gyntaf Cymru a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2017 ac mae'n fater o bryder
i weithredwyr bysiau. Trafodwyd yr effaith ar weithredwyr yng nghyd-destun y
dirywiad sylweddol diweddar yn nifer y teithwyr a gwasanaethau yng
Nghymru. Gostyngodd nifer y gwasanaethau
bysiau cofrestredig yng Nghymru tua 46%, o 1,943 o wasanaethau i 1,058 rhwng
mis Mawrth 2005 a mis Mawrth 2015.
Gostyngodd nifer y siwrneiau teithwyr bysiau tua 19% rhwng 2008 a 2015.
Mae’r pwyllgor yn gwahodd sylwadau ar y canlynol:
- Sut mae tagfeydd yn effeithio ar y sector bysiau yng Nghymru a sut
mae'n cymharu â rhannau eraill o'r DU?
- Sut y dylid gwella polisi i fynd i'r afael ag effaith tagfeydd ar y
sector bysiau?
- A yw tagfeydd yn effeithio ar yr angen am gymhorthdal cyhoeddus ar
gyfer gwasanaethau bws yng Nghymru?
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/04/2017
Dogfennau
Ymgynghoriadau
- Effeithiau tagfeydd ar y diwydiant bysiau yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)