Iechyd Meddwl Amenedigol
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i Iechyd Meddwl Amenedigol. Nod yr
ymchwiliad oedd ystyried sut roedd gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn
cael eu darparu a sut y gallai Llywodraeth Cymru wella gwasanaethau i famau,
babanod, tadau a theuluoedd.
Roedd y Pwyllgor
yn awyddus i glywed sut mae gwasanaethau yn cydgysylltu o dan ymbarél Iechyd
Meddwl Amenedigol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol,
gwasanaethau mamolaeth, gwasanaethau iechyd meddwl cyffredinol i oedolion,
unedau mamau a babanod i gleifion mewnol, gwasanaethau iechyd meddwl i rieni a
babanod, ymwelwyr iechyd, seicoleg glinigol, a gwasanaethau bydwreigiaeth,
meddygon teulu a’r tîm gofal sylfaenol estynedig, rôl y trydydd sector a
grwpiau cymorth lleol a darparwyr gwasanaethau preifat.
Cyhoeddwyd
y Pwyllgor ei adroddiad ar ganfyddiadau'r ymchwiliad: Iechyd
meddwl amenedigol yng Nghymru (PDF 195MB)
Yn dilyn
cyflwyno’r adroddiad, anfonwyd gohebiaeth gan Fwrdd
Iechyd Prifysgol Cwm Taf (PDF 131KB) yn cywiro tystiolaeth a roddwyd mewn
perthynas â’u gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol.
Mae ymateb
(PDF 360KB) Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r
ymchwiliad wedi cael ei gyhoeddi.
Roedd yr ymchwiliad hwn yn rhan o waith ehangach y
Pwyllgor ar Y
1,000 Diwrnod Cyntaf.
- Gwybodaeth
ychwanegol a ddaeth i law yn ystod yr Ymchwiliad i Iechyd Meddwl
Amenedigol
- Cafwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn
ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar 31 Ionawr.2018
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/03/2017
Dogfennau
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Fwrdd Iechyd Addysgu Powys - Therapïau Seicolegol – 24 Gorffennaf 2017
PDF 199 KB
- Nodyn o'r digwyddiad Iechyd Meddwl Amenedigol ar 18 Mai 2017
PDF 157 KB
Ymgynghoriadau
- Iechyd Meddwl Amenedigol (Wedi ei gyflawni)