NDM6274 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6274 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6274
David
Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o
siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o
ran ei gyflawni.
2. Yn credu y bydd herio barn gyhoeddus leol yn cyfyngu
ar y gobaith o lwyddo ac y dylai newidiadau i sefydliadau addysgol sy'n cwmpasu
Cyfnodau Allweddol 1 i 5 gael eu gwneud mewn ffordd a gaiff ei chefnogi gan y
mwyafrif o rieni, gwarcheidwaid neu drigolion lleol, sydd yn y sefyllfa orau i
wneud penderfyniadau addysgol ar ran eu plant.
3. Yn credu bod angen i gynigion i newid ysgolion cyfrwng
Saesneg, ysgolion dwy-ffrwd neu ysgolion pontio yn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu
eu cau gynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:
a) gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau,
cyfeiriadau a chodau post;
b) gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir
yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; ac
c) nad yw'n rhoi blaenoriaeth i drydydd parti, nad yw'n
gysylltiedig â'r mater, dros ddymuniadau rhieni neu drigolion lleol.
4. Yn credu bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Gyngor
Sir Caerfyrddin cyn penderfynu cau ysgol babanod ac ysgol iau ffederal
dwy-ffrwd Llangennech a'u troi'n un ysgol cyfrwng Cymraeg yn un gwallus.
5. Yn credu y dylai'r cyngor ddiddymu ei benderfyniad tra
cynhelir ymgynghoriad pellach ar sail yr egwyddorion a nodir ym mharagraff 3
uchod.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/03/2017
Angen Penderfyniad: 29 Maw 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Neil Hamilton AS, David J Rowlands AS