Prentisiaethau yng Nghymru
Bydd Pwyllgor
yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi
cytuno i gynnal ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru 2017.
Crynodeb
Nod
yr ymchwiliad hwn yw rhoi cyfle i'r Pwyllgor fynd ar drywydd materion sy'n
ymwneud â phrentisiaethau. Codwyd rhai o'r materion hyn yn ystod yr ymchwiliad
diweddar i'r ardoll brentisiaethau ond nid oeddent yn uniongyrchol berthnasol
i'r ardoll brentisiaethau.
Mae’r
pwyllgor yn gwahodd sylwadau ar y canlynol:
- Adolygu'r cynnydd ers adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes yn 2012:
Prentisiaethau
yng Nghymru
- Mae hyn yn cynnwys edrych
ar rôl cyrff allweddol: y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol; Bwrdd
Cyflogaeth a Sgiliau Cymru (WESB); a'r Cynghorau Sgiliau Sector
- Craffu ar hygyrchedd cyngor annibynnol ar yrfaoedd mewn perthynas â
phrentisiaethau ac opsiynau galwedigaethol eraill
- Yn enwedig ar gyfer
pobl ifanc, naill ai mewn ysgolion, gan Gyrfa Cymru, ar-lein neu o
ffynonellau eraill
- A yw Gwasanaeth
Paru Prentisiaethau Gyrfa Cymru yn addas at y diben
- Sut y gellir
sicrhau yr un parch i lwybrau galwedigaethol ac academaidd
- Ymchwilio i'r prif rwystrau rhag cychwyn prentisiaethau
- Pa mor hygyrch yw
prentisiaethau i bobl ag anableddau (o bob oedran)
- Sut y gellir
cefnogi pobl o'r teuluoedd incwm isaf i gychwyn prentisiaethau
- Pa arferion da sy'n
bodoli a beth arall y gellir ei wneud i fynd i'r afael â stereoteipio ar
sail rhyw
- Craffu ar y gwaith o ddatblygu prentisiaethau lefel uwch, gyda
chefnogaeth sefydliadau addysg bellach ac uwch
- Pa mor effeithiol
yw'r dilyniant rhwng mathau eraill o ddysgu seiliedig ar waith a
phrentisiaethau a rhwng lefelau 2, 3, 4 a'r prentisiaethau uchod
- Sut y gellir gwella ymgysylltiad cyflogwyr â phrentisiaethau
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/04/2017
Dogfennau
Ymgynghoriadau
- Prentisiaethau yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)