P-05-746 Cludiant Ysgol am Ddim i Holl Blant Cymru
P-05-746 Cludiant Ysgol am Ddim i Holl Blant Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rachel Griffiths ar ôl casglu 194
llofnod.
Geiriad y
ddeiseb
Rwyf yn cychwyn y ddeiseb hon i holl blant
Cymru gael cludiant am ddim i'r ysgol ac oddi yno, lle maent yn byw yn y
dalgylch.
Gwybodaeth ychwanegol
Er enghraifft, oherwydd toriadau Llywodraeth y
DU i gyllid y sector cyhoeddus a'r angen i'r cyngor wneud arbedion sylweddol o
ganlyniad i hynny, mae cyngor Rhondda Cynon Taf bellach yn dymuno codi tâl o
£285 y plentyn bob blwyddyn o fis Medi 2016 am eu cludo i'r ysgol ac oddi yno
neu £95 i'r rheini sy'n cael prydau ysgol am ddim. Gellid gwneud toriadau
mewn mannau eraill e.e. a oes gwir angen planhigion yn y gymuned?
Bws
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/10/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y
gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y
deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb
hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/03/2017.
Etholaeth a
Rhanbarth y Cynulliad
- Pontypridd
- Canol De Cymru
Rhagor o
wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/03/2017