Yr Heriau Llywodraethu sy’n cael eu Peri gan Wasanaethau a Ddarperir yn Anuniongyrchol, ac a Ariennir gan y Cyhoedd yng Nghymru

Yr Heriau Llywodraethu sy’n cael eu Peri gan Wasanaethau a Ddarperir yn Anuniongyrchol, ac a Ariennir gan y Cyhoedd yng Nghymru

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi llunio papur ar y pwnc ‘llywodraethiant hyd braich’, ym mis Chwefror 2017, gyda’r bwriad o annog dadl adeiladol ynghylch y ffordd ymlaen mewn perthynas â materion llywodraethiant sy’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ei ddiben cyffredinol felly yw annog gwelliant yn y gwaith cynyddol gymhleth o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

 

Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y papur a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Archwilydd Cyffredinol ym mis Rhagfyr 2017. Yn dilyn hynny, ysgrifennodd y Cadeirydd at yr Ysgrifennydd Parhaol a Llywodraeth Cymru yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw waith a wnaed wrth ddatblygu’r meysydd gwaith a nodwyd ym Mhapur Trafod yr Archwilydd Cyffredinol yn benodol mewn cysylltiad â’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a chwmnïau hyd braich.

 

Cafwyd ymateb yn ystod tymor yr hydref 2018.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/02/2017

Dogfennau