Ymchwiliad i bolisi rhanbarthol – beth nesaf i Gymru?
Ymchwiliad i bolisi rhanbarthol – beth nesaf i Gymru?
Cytunodd y Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ystyried dyfodol polisi
rhanbarthol yng Nghymru.
Nod polisi rhanbarthol yw lleihau gwahaniaethau rhanbarthol o ran
perfformiad economaidd. Cytunwyd ar y polisïau hyn ar lefel yr UE cyn Brexit.
Yn y fframwaith ariannol saith mlynedd diwethaf, clustnodwyd gwerth £2 biliwn o
cyllid yr UE at y diben hwn yng Nghymru.
Fel rhan o’r
ymchwiliad, bu’r Pwyllgor yn trafod:
- statws rhaglenni
presennol (gan gynnwys lefelau ymrwymiad a chwestiynau’n ymwneud â chau
rhaglenni).
- dyfodol polisi
rhanbarthol yng Nghymru (yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig y tu allan i’r
Undeb Ewropeaidd);
- yr arfer gorau
mewn rhannau eraill o’r byd, gan gynnwys modelau eraill sy’n cael eu
defnyddio i leihau anghyfartaledd rhanbarthol mewn perfformiad economaidd.
Casglu tystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth
lafar fel rhan o'i ymchwiliad ar y dyddiadau canlynol:
27
Chwefror 2017 (371 KB)
6 Mawrth
2017 (583 KB)
13
Mawrth 2017 (532 KB)
20
Mawrth 2017 (279 KB)
15 Mai
2017 (631 KB)
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth
ysgrifenedig hefyd y gellir ei gweld isod.
Adroddiad
Cafodd adroddiad
y Pwyllgor ar ddyfodol polisi rhanbarthol ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2017. Darllenwch
yr adroddiad llawn
Ar ddiwrnod cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y
Pwyllgor:
“Nid yw’n opsiwn
inni gario mlaen fel rydym, ac mae angen i bawb, o Lywodraeth Cymru, i’r sector
preifat, ein prifysgolion a’r trydydd sector ddechrau meddwl am ffyrdd newydd o
fynd i’r afael â rhai o’r heriau economaidd sy’n ein hwynebu fel cenedl.
“Mae’n alwad i bob
un ohonom wynebu’r her, ac yn un na ddylai neb ei hanwybyddu.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb
i adroddiad y Pwyllgor. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Medi
2017.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/02/2017
Dogfennau
- Ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol – beth nesaf i Gymru? - Mehefin 2017
- Ymateb Llywodraeth Cymru - 20 Medi 2017
- Llythyr ar y cyd ynghylch Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd- 20 Rhagfyr 2017 PDF 195 KB
- 01 Cyflwyniad ygsrifenedig gan yr Athro Sascha Becker PDF 358 KB Gweld fel HTML (4) 25 KB
- 02 Cyflwyniad ysgrifenedig gan yr Athro David Bell PDF 614 KB Gweld fel HTML (5) 98 KB
- 03 Tystiolaeth ysgrifenedig gan yr OECD ar bolisi rhanbarthol yng Nghymru [Saesneg yn unig] PDF 1 MB