Cydgrynhoi a Chodeiddio
Cydgrynhoi a Chodeiddio
Cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith adroddiad, sef Ffurf a Hygyrchedd y
Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru ym mis Mehefin 2016. Argymhellodd y dylai
Llywodraeth Cymru ddilyn polisi codeiddio gan ddwyn ynghyd yr holl
ddeddfwriaeth y mae ei chynnwys o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd ac
sydd, ar hyn o bryd, wedi'i wasgaru ar draws darnau amrywiol o ddeddfwriaeth
Senedd y Deyrnas Unedig a / neu'r Senedd mewn darn o ddeddfwriaeth y Senedd.
Gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad llafar ar Godau Cyfraith Cymru
ar 13 Rhagfyr 2016. Ar 8 Mai
2017, cafodd y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol* (y Pwyllgor) dystiolaeth
gan y Cwnsler Cyffredinol am godeiddio Yna, ar 19 Gorffennaf 2017, ymatebodd
y Cwnsler Cyffredinol yn ffurfiol i Gomisiwn y Gyfraith.
Ar 19 Mehefin 2017, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad
ynghylch
Dehongli Cyfraith Cymru – i ystyried deddf dehongli i
Gymru
Ar 20
Mawrth 2018, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch
Y Bil
Deddfwriaeth Drafft (Cymru) (y Bil drafft). Cyflwynodd y Cwnsler
Cyffredinol bapur briffio
technegol ar y Bil drafft i'r Pwyllgor ar 14 Mai 2018.
Ar 3 Rhagfyr 2018, cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y Bil
Deddfwriaeth (Cymru) ("Y Bil") yn y Senedd. Craffodd
y Pwyllgor ar y Bil, a phasiodd y Senedd y Bil ar 16 Gorffennaf 2019. Yn ei
adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil, argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r Cwnsler
Cyffredinol gyhoeddi datganiad yn egluro ei gynigion a’i fwriadau ar gyfer
codeiddio cyfraith Cymru. Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylai’r Pwyllgor
Busnes geisio barn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
wrth iddo baratoi Rheolau Sefydlog newydd ar gyfer Biliau cydgrynhoi, codeiddio
a Biliau diwygio’r gyfraith.
* Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr
2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Math o fusnes:
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/02/2017
Dogfennau
- Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyfraith hygyrch i Gymru - 16 Mawrth 2021
- Llythyr gan y Llywydd i'r Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - 3 Mawrth 2021 PDF 317 KB
- Llythyr at y Llywydd o'r Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - 4 Rhagfyr 2019 PDF 107 KB
- Llythyr i'r Cwnsler Cyffredino - 7 Tachwedd 2019
- Llythyr at y Llywydd o'r Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - 11 Hydref 2019 PDF 149 KB
- Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol - Adroddiad Comisiwn y Gyraith ar Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith yng Nghymru - 19 Gorffennaf 2017 (Saesneg yn unig)
- Llythyr gan y Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i'r Llywydd - 15 Gorffennaf 2019 (Saesneg yn unig) PDF 78 KB
- Llythyr gan y Llywydd i'r Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - 10 Gorffennaf 2019 PDF 475 KB
- Llythyr i'r Cwnsler Cyffredinol: Codeiddio a chydgrynhoi - 9 Chwefror 2017 PDF 234 KB Gweld fel HTML (9) 15 KB
- Llythyr gan y Llywydd: Codau Cyfraith Cymru - 26 Ionawr 2017
- Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol at y Llywydd - 12 Rhagfyr 2016 (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- Llythyr gan Nicholas Paines QC i'r Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - 30 Gorffennaf 2016 PDF 172 KB